Pwy ydym ni?
Prosiect ddwy flynedd wedi’i ariannu gan gronfa ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru yw ‘Explore Collective’, sy’n uno amrywiaeth o sefydliadau creadigol rhagorol, gan gynnwys:
​
-
ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái
-
Plant y Cymoedd
-
Celfyddydau Anabledd Cymru
-
Straeon Research
-
Suzie Larke (Ffotograffydd)
-
Rachel Carney (Bardd)
​
Cynhelir ein gweithdai celf weledol wythnosol yn Dusty Forge, Caerdydd a’r Ffatri, Porth ac maent yn sail prosiect celf gymunedol bywiog a newidiol.
Mae ein prosiect yn archwiliad creadigol, gan weithio gyda’n gilydd gyda chyfranogwyr, artistiaid a phartneriaid y prosiect. Byddwn yn ysbrydoli ac yn cefnogi ein gilydd ac yn ymateb yn greadigol i anghenion yn ein cymunedau.
​
Ein nod yw rhannu technegau a phrosesau artistig a dysgu sgiliau creadigol newydd, ynghyd â chynnig teithiau ac arddangos arddangosiadau a fydd yn ein helpu i gysylltu a rhannu ein gwaith celf a’n cyflawniadau gyda chynulleidfa ehangach.